Ar lun gair fel "talai" - sy'n adnabyddus i chi ar bob siec am wn i
("payee") - a "prydlesai" am "lessee", hyd yn oed "hyfforddai" am "trainee",
rwyf i wedi defnyddio "ymgynghorai" ac "ymgynghoreion" cyn hyn pan nad yw hi
wedi bod yn gyfleus aralleirio.
Mae'r terfyniad "-ai" yn Gymraeg i'w weld yn cyfateb yn dda i'r Saesneg
"-ee". Mae gan Peter Wynn Thomas nodyn arno yn Gramadeg y Gymraeg, tud 656.
-----Original Message-----
From: Non Tudur [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 12 January 2001 15:55
To: [log in to unmask]
Subject: Consultee(s)
Beth fydd pobl yn ei roi am hwn? Dwi wastad wei'i sgwennu mewn ffordd hir
iawn ('sawl yr ymgynghorir a* nhw' ayb) ond y tro hwn mae'n rhaid i mi gael
rhywbeth byrrach (un gair os posib) i'w roi yn bennawd ar dabl. Nid
'ymgynghorydd' wrth reswm. Wedi meddwl am roi 'ymatebwr' achos mudiadau sy'n
ymateb i ddogfen ymgynghori fyddan nhw, ond byddai'n well gen i wybod beth
mae'r lleill yn ei ddefnyddio, yn arbennig y Cynulliad.
Diolch am unrhyw gymorth.
Non Tudur ac Elliw Lly^n
Datganiad : CYFRINACHOL: Safbwynt yr awdur yw cynnwys y neges hon; ni cheir
yma o reidrwydd safbwynt Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Neges breifat yw
hon a fwriadwyd ar gyfer y derbynnydd(ion) a enwir uchod yn unig. Gall y
cynnwys fod yn gyfrinachol. Os ydych wedi derbyn y neges hon drwy
gamgymeriad a wnewch chi ymateb a nodi hynny ac yna dileu'r neges.
Gwaherddir unrhyw un arall ac eithrio'r derbynnydd rhag ei defnyddio, ei
chopïo, ei datgelu neu ei dosbarthu.
Declaration : CONFIDENTIALITY: The contents of this message are the views of
the author, not necessarily the views of the Snowdonia National Park
Authority. This is a private message intended for the named addressee(s)
only. Its contents may be confidential. If you have received this message in
error please reply to say so and then delete the message. Any use, copying,
disclosure or distribution by other than the addressee is forbidden.
|