Mae'n rhaid i mi gytuno mai ADHD sydd fwyaf cyfarwydd i mi.
Yn anffodus, doeddwn i ddim wedi esbonio fy mhroblem yn dda iawn. Yr hyn
ddylwn i fod wedi ei ofyn oedd, beth yw barn pobl ynghylch ail adrodd
"Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)" am "Attention
Deficit & Hyperactivity Disorder (ADHD)" rhyw bedair gwaith ar un dudalen
lle nad oes yna lawer o brint, a lluniau i'w gosod o fan hyn a fan draw
hefyd! Gan mai athrawon yw'r gynulleidfa, prin bod angen hyn, ond eto
............
Diolch yn fawr am yr ymateb, beth bynnag.
|