Ape^l eto ar i gyfrannwyr roddi penawdau fydd yn gwneud sens i'r sawl fydd
yn edrych ar yr archifau yn yr oesoedd a dde^l.
Fe sgrifennodd Ann Corckett ym mis Hydref:
----------------
Gyda llaw, a fyddai'n bosibl, os gwelwch yn dda, roi teitl i'r neges sydd
yn ei wahaniaethu oddi wrth yr holl negeseuon eraill sy'n gofyn am help? Y
term Saesneg, os oes un arbennig, efallai, neu'r maes, os oes sawl un?
Mae'n gwneud pethau'n haws wrth edrych yn o^l trwy'r ffeiliau.
-----------------
Anfonais innau neges am hyn ar 15/5/2000 a gellir gweld y neges honno ar yr
Archif
http://www.mailbase.ac.uk/lists/welsh-termau-cymraeg/2000-05/0046.html
Mae cael pennawd ystyrlon i neges, a hefyd anfon neges newydd pan fyddir
yn codi cwestiwn newydd, yn ei gwneud yn haws i olrhain trywydd y
drafodaeth yn yr archifau.
Mae awgrym Ann o roi'r term Saesneg fel pennawd, pan fo hynny'n bosib, yn
agrym y dylid ei ddilyn.
diolch
Prys
--
------------
Dr J P M Jones
Deon y Gyfadran Addysg - Dean of the Faculty of Education
Trefenai
Ffordd Caergybi
Bangor
Gwynedd
LL57 2PX
tel +44 1248 382955/383013
ffacs +44 1248 383990
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|