Annwyl Magi,
Rwy'n cymryd mai Magi wyt ti a oedd ym Mangor efo fi ers talwm ac a fu'n
dilyn cwrs cyfieithu wedi hynny. Sut wyt ti? Wyt ti'n dod i'r Gynhadledd
yn Rhaeadr yr wythnos nesaf? Ffonia'r swyddfa am raglen y GYnhadledd -
01248 388092. Anfona air ata i i gadarnhau dy gyfeiriad e-bost. Nid oeddwn
wedi dilyn y drafodaeth ar y termau ers mis Gorffennaf, dyna pam y būm mor
hir yn dy ddargfanfod.
Hwyl fawr,
Megan
>From: teulu lewis <[log in to unmask]>
>Reply-To: [log in to unmask]
>To: welsh-termau-cymraeg <[log in to unmask]>
>Subject: re: security
>Date: Thu, 26 Oct 2000 14:49:34 +0100
>
>I fynd yn +APQ-l at hen drafodaeth. Wrthi'n cyfieithu deunydd am
>ddarpariaeth, lleoliadau gwasanaeth gofal ac addysg blynyddoedd cynnar h.y.
>plant bach. Un frawddeg sy'n s+APQ-n am safety a security (h.y. cadw'r
>darlings bach o dan glo+ACE-) o fewn ychydig eiriau i'w gilydd. Ble byddwn
>yn hapus iawn defnyddio gwarchod/gwarchodaeth am security fel rheol rwyf yn
>petruso braidd yn y cyd-destun hwn - mae gwarchodaeth plant yn golygu
>rhywbeth tra gwahanol i security - child protection - tra mae gwarchod
>plant yn golygu rhywbeth arall eto - pwy sy'n gwarchod y plant heno? -
>Does ryfedd fod fy ngwallt yn troi'n wyn. O leiaf gallaf fod yn hollol
>bendant na fyddaf yn defnyddio diogeledd.
>Magi Lewis
_________________________________________________________________________
Get Your Private, Free E-mail from MSN Hotmail at http://www.hotmail.com.
Share information about yourself, create your own public profile at
http://profiles.msn.com.
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|