Gwn nad yw amser weithiau'n caniatau, yn arbennig os yw pobl yn cyfieithu
mewn adrannau prysur, ond 'rwy'n meddwl bod cyfieithwyr yn rhy gyndyn o
holi'r *cwsmer* ynghylch pethau sy'n aneglur - nid yw'n arwydd o wendid!
Weithiau cewch y boddhad o ddarganfod nad yw ef chwaith yn gwybod beth mae
o'n ei feddwl, neu mae o'n gweld bod y Saesneg yn mynd i beri anhawster i
ddarllenwyr eraill hefyd, ac yn ei hail-wampio. Teimlaf fy mod i'n gwneud
gwell gwaith wrth *gydweithio* a+'r cwsmer, ac nid wyf yn gweld unrhyw
bwynt mewn cyfieithu termau/brawddegau sy'n ddiystyr imi yn
dermau/brawddegau sy'n ddiystyr i bawb.
Tybed a yw'r cyd-destun yn awgrymu rhywbeth yn ymwneud a+ Chymdeithasau
Gwasgaredig?
Ann
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|