Mae'r sawl sy'n 'gorfodi', mewn cyd-destun cyfreithiol, yn peri i bobl gydymffurfio â rhyw reolau neu'i gilydd. Gan hynny, fe fyddai swyddogion y Gwasanaethau Amgylcheddol yn peri i bobl ufuddhau i reolau yn erbyn taflu sbwriel, gadael i'w cwn baeddu, ayyb. Yn y cyd-destun yma, a yw 'Swyddog Gorfodi' yn llai eglur nag 'Enforcement Officer'? Tybed a ellid dod dros y broblem hyn drwy newid y cyfan i 'Swyddog Gorfodi Amgylcheddol' / 'Environmental Enforcement Officer'?
Tim
>>> "Thomas, David A" <[log in to unmask]> 11/01/00 11:19am >>>
Dw'i yn nghanol cyfieithu cardiau busnes ar gyfer nifer o swyddogion y
cyngor. Gwaith y swyddog uchod yw i fynd allan o gwmpas yr ardal a sicrhau
nad yw pobl yn taflu sbwriel ar y stryd, nad yw eu cwn yn baeddu ar
balmentydd a.y.b. (rhan o'n Gwasanaethau Amgylcheddol yw'r swydd). Mae'r
hawl hefyd gan y swyddog i osod dirwy yn syth i unrhyw un sy'n torri'r
rheoliadau.
"Gorfodaeth" sydd yng Ngeiriadur yr Academi am "enforcement" ond ydy Swyddog
Gorfodaeth neu Swyddog Gorfodi yn cyfleu ystyr y swydd yn iawn? Ac ie, nid
yw'r Saesneg yn cyfleu ystyr y gwaith hefyd - roedd rhaid i mi ofyn beth
oedd y swydd cyn i mi allu anfon y neges hon!
Unrhyw gynigion?
David A.Thomas David A.Thomas
Policy Unit Uned Polisi
Tredomen Tredomen
Extension 4353 Estyniad 4353
E-mail [log in to unmask] E-bost [log in to unmask]
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|