Mae yna batrwm yn y Saesneg, sef elfen yn enwi'r hyn sy'n cael ei drin +
elfen yn golygu torri neu drin neu ddiwyllio
agri + culture = trin caeau
arbori + culture = trin coed
seri + culture = trin sidan
viti + culture = trin gwinwydd
OND
dyw aquaculture ddim yn dilyn y patrwm yn iawn, achos nid trin dwr yw'r
ystyr, ond defnyddio dwr yn gyfrwng i dyfu pethau eraill. Dyw permaculture
ddim yn dilyn y patrwm chwaith.
Mae'r ffurfiau Cymraeg sy'n cyfateb i'r pedwar gair Saesneg uchod yn
ddiddorol hefyd.
Nid trin amaethwyr yw amaethyddiaeth, ond yn hytrach bod wrthi neu fynd ati
i amaethu neu fod ynglyn ag amaethu. Mae'n ddigon naturiol creu geiriau
newydd ar gyfer y -cultures eraill ar lun y gair amaethyddiaeth, ond a bod
yn fanwl, dwy ddim yn credu bod yna ddim byd yn -iaeth, nac yn -yddiaeth, i
gyfleu'r ystyr mai trin neu ddiwyllio sydd dan sylw. Rhywbeth fel "bod
wrthi yn ..." yw craidd y peth efallai, ac felly
prydyddiaeth = bod wrthi fel prydydd
gwleidyddiaeth = bod wrthi yn gwleidydda
coedyddiaeth = bod wrthi yn gysylltiedig â choed
dyfryddiaeth = bod wrthi yn gysylltiedig â dwr
Dim ond i ni gofio'r gwahaniaeth yma yn y patrwm Cymraeg, a dwy ddim yn
gweld rheswm dros beidio ag ychwanegu dyfryddiaeth at gasgliad Colin.
-----Original Message-----
From: Colin Jones [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 08 November 2000 09:58
To: [log in to unmask]
Subject: RE: aquaculture
Yn o^l Geiriadur yr Academi:
agriculture = amaethyddiaeth
arboriculture = coedyddiaeth
sericulture = sidaniaeth
viticulture = gwinwyddiaeth
Oes rhywun yn gweld patrwm yma?
aquaculture = dyfryddiaeth??
Colin Jones
Bwrdd yr Iaith Gymraeg/Welsh Language Board
Ffôn/Tel. 029 2087 8018
Ffacs/Fax 029 2087 8001
[log in to unmask]
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|