O ran 'Upload' a 'Download' - mi fum i mewn dwy ysgol yn ddiweddar - (un ar
ynys Mon a llall yng Nghwm Gwendraeth!!) ac roedd y ddwy ysgol wedi
defnyddio 'lawr-lwytho' a 'lan-lwytho'! Ia! 'Lan' yn Sir Fon!!!!!!
Dydw i ddim yn siwr o gyd-destun 'cyrchu gwefan' ond rydw i'n defnyddio
'cael mynediad' wrht son am 'access'.
TGC neu TGCh
Mae ESTYN (Arolygaeth Ei Mawrhydi Dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru)
wedi cyhoeddi dogfen eleni yn dwyn y teitl:
'Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu mewn cyrsiau hyfforddiant cychwynnol
athrawon'
gan ddefnyddio TGCh - rhaid i mi gyfaddef mai TGCh ydw i'n ei ddefnyddio.
Safwe? Plis, plis, plis dim safwe. Unrhyw beth ond safwe! Y gair mwaf
chwydlyd i gael ei fathu erioed! Gwefan neu safle ar y we.
Chat room - Siop siarad? Stafell sgwrsio? Mae 'Stafell Sgwrsio' yn fwy na
'Siop Siarad' (gobeithio!)
Links - 'dolennau' neu 'cysylltiadau' -Does gen i ddim ateb! Cysylltiadau
fydda i'n ei ddefnyddio ond dydw i erioed wedi hoffi na cysylltiadau na
dolennau/dolenni! Diolch am fentro 'safweoedd' ... wps ... 'gwefannau eraill'.
Home - Hafan v Cartref. Ydy cartref yna hafan? Cwestiwn mawr! Cofiwch eiriau
Gil Scott-Heron - 'Home is where the hatred is'!
Dyna ddigon o fwydro!
Hwyl
Dilwyn
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|