Efallai mod i'n haeddu cerydd MT am fy nefnydd diog o "jyst" a "ffitio".
Ond peidied a^'m beio am ddefnyddio "slafaidd"
- gair sydd wedi'i ddefnyddio yn y Gymraeg i olygu "slavishly" ers dros dri
chan mlynedd.
Gallaf fod yn ddiamynedd,ac yn bendant yn rhy siaradus,
ond nid wyf yn cofio imi feirniadu unigolyn yn gyhoeddus am safon ei
Gymraeg
- 'rwy'n rhy ymwybodol o'm ffaeleddau fy hun.
Os ydwyf wedi brifo rhywun yn anfwriadol, yna mae'n ddrwg gen i;
weithiau gall rhywun swnio'n fwy llym "ar bapur" nag y mae'n ei fwriadu.
Mae MT wedi apelio cyn rwan am fwy o hiwmor yn ein trafodaethau;
efallai imi gymryd ei sylwadau'n ormod o ddifrif.
Anodd gennyf gredu ei fod am gyhuddo Bruce na finnau o fod ag agwedd,
"hilyddol, gi"aidd (a) Seisnig" (er, wrth gwrs, Saesnes ydwyf),
ond mae'n hawdd iawn darllen ei neges fel 'na.
Gyda llaw, nid at y tuedd i gymreigio geiriau Saesneg y cyfeiriwyd yn fy
neges.
Mae'r Saesneg a^ thuedd i bentyrru geiriau sy'n golygu'r un peth .
Mae rhaid ystyried a oes angen diffinio "term" Cymraeg ar wahân i gyfateb i
bob un,
neu a oes modd dweud yr un peth yn fwy syml a naturiol.
Ann (heb yr "e", gyda llaw)
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|