> Neges hir iawn
A dwywaith felly am ei bod hi wedi dod ar ffurf testun plaen a html
> This is a multi-part message in MIME format.
> Content-Type: text/plain;
> Content-Type: text/html;
> 'cyrchu' a 'chyrchiad' am 'access' - Yn anffodus, er mod i'n hoff
iawn
> o'r gair cyrchu, mae gen i deimladau negyddol iawn am yr ymadrodd
> 'cyrchu'r we', 'cyrchu gwefan' ayb. I mi, mae cyrchu yn golygu:
> ...
> Efallai mod i'n rhy bedantic a bod modd plygu ac addasu ystyron, ac y
> gallech chi ddadlau eich bod chi'n 'mynd tuag at y we', neu'n 'mynd i
> nol y we' (??), ond beth sydd o'i le efo 'cysylltu efo'r we/efo
> safle', 'defnyddio'r we', 'gweld neu edrych ar safle', neu hyd yn oed
> 'ddarllen tudalen'?
Defnyddio'r we mae pobl yn ei wneud yn y swyddfa hon er mwyn edrych ar
dudalennau cwmniau technegol. Cysylltiad parhaol sy ganddon ni fan hyn
felly
dim ond o gartref mae rhaid i fi fynd trwy broses o gysylltu.
> Website - Gwefan, safle gwe, safle we, safwe neu safle ar y we?
Yn aml iawn mae "ar y we" yn amlwg o'r cyd-destun a dim ond son am
safle rhyw gwmni neu berson mae pobl yn ei wneud.
> Links - 'dolennau' neu 'cysylltiadau'
Rwy'n euog o ddefnyddio'r ail heb feddwl amdano rhyw lawer.
Erbyn hyn rwy' dan yr argraff bod cyswllt yn fwy cywir.
> Oes modd defnyddio rywbeth fel safleoedd neu wefannau cyswllt?
Byddwn yn osgoi son am safle/gwefan yn gyffredinol. Mae'r cyswllt yn
gallu bod a rhan arall o'r un tudalen neu ddogfen arall ar yr un safle.
> Home - Hafan v Cartref
Dim help. Mae'n gas gen i'r syniad o dudalen cartref. Gobeithio bydd y
syniad yn mynd yr un ffordd a sgidiau platfform. Byddwn i'n ffafrio
prif dudalen am yr un sy'n ymddangos wrth ddefnyddio cyfeiriad y cwmni
yn unig
( ee "www.bbc.co.uk" ).
> Upload a Download
Llwytho/dadlwytho?
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|