Sgwrs yng nghartref y Griffithsiaid:
B: Pam mae angen dilyn Saesneg yn slafaidd? Sut y gall rhywbeth fod yn
"safe" heb fod yn "secure"?
A: Mi all adeilad fod yn lle diogel i weithio, heb fod yn "secure" rhag
lladron.
B: Yr ateb, felly, yw defnyddio "diogel rhag (beth bynnag yw'r perygl).
Nid yw "yn ddiogel rhag niwed a rhag crwydro" yn swnio'n iawn rywsut, os
mai dyna ystyr "safe and secure". Efallai byddai jyst "cadw nhw rhag niwed
a rhag crwydro" yn iawn. Awgrym arall gan Bruce yw "yn ddiogel a dianaf",
ond chi sy'n gwybod a yw un o'r rhain yn ffitio'r cyd-destun.
Ann
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|