Annwyl Magi,
Rwy'n falch eich bod chi, fel fi, yn gweld yr anhawster. Dyna pam rwy'n gwled rhinwedd yn awgrym David. Diolch yn fawr am eich neges.
Tim
>>> teulu lewis <[log in to unmask]> 09/12/00 08:33pm >>>
Annwyl Tim
Nid health professional yw pobl sy'n cadw'r ffeiliau na'r bobl ar y ddesg
groeso. Pobl yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yw hwy efallai neu'n
gweithio mewn cartref nyrsio neu mewn clinig neu mewn practis meddyg teulu
etc ond nid sgiliau yn ymwneud a iechyd sydd ganddynt. Health professional
yw rhywun sydd wedi derbyn hyfforddiant penodol mewn maes yn ymwneud yn
benodol a iechyd, boed yn ffisiotherapydd neu'n therapydd galwedigaethol
neu'n therapydd lleferydd neu'n arbenigwr neu obstetregydd neu beth bynnag.
Mae'r bobl sy'n dod a'r troli heibio yng nghanol y bore yn aml yn gwneud mwy
o les i'r cleifion na phawb arall ond nid health professionals mohonynt.
Cymrwch air cyn-fydwraig gydag ugain mlynedd o brofiad o ddelio gyda health
professionals eraill yn y maes. Nid trafod te na ffeilio oedd fy ngwaith i!
Magi Lewis
-----Original Message-----
From: Tim Saunders <[log in to unmask]>
To: welsh-termau-cymraeg <[log in to unmask]>
Date: 12 September 2000 10:50
Subject: Re: professional
Sut mae gwneud yn eglur nad yw 'gweithwyr ym maes iechyd' yn cynnyws y bobl
ar y ddesg groeso, y rhai sy'n cadw'r ffeiliau, pobl sy'n glanhau, staff y
ffreutur (boed cymhwysterau arlwyo gyda hwy neu beidio), y rhai sy'n dod b'r
troli heibio ganol bore, ayyb?
Tim
>>> teulu lewis <[log in to unmask]> 09/11/00 08:19pm >>>
Mae'n dibynnu yn hollol ar y cyd-destun. Os yw swydd yr health professional
yn amlwg o'r darn yr wyf yn ei gyfieithu, yna byddaf yn defnyddio'r enw
priodol - e.e. nyrs neu fydwraig neu feddyg teulu. Os defnyddir health
professional yn gyffredinol byddaf yn defnyddio gweithiwr/gweithwyr yn y
maes iechyd+ADs- gweithwyr proffesiynol+ADs- gweithwyr iechyd. Defnyddio
dipyn bach o synnwyr cyffredin a dealltwriaeth a pheidio meddwl fod rhaid
dilyn y Saesneg yn slafaidd.
Os nad darlledwr/wraig/ydd ( yn y dyddiau cyfartal hyn) yw broadcasting
professional yna i mi mae'n rhywun sy'n gweithio ym maes darlledu, yn y byd
darlledu. Ond gwerinol fum i erioed ..
magi lewis
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|