I'r graddau fod y dywededig dermau yn gywir ac yn addas, cytunaf yn llwyr.
Tim
>>> "Roberts, Huw" <[log in to unmask]> 08/30 9:34 am >>>
Er mwyn hyrwyddo a chefnogi gwaith athrawon, darlithwyr, disgyblion a
myfyrwyr sy'n ymwneud ag addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, hoffwn weld mwy
ohonom yn mabwysiadu geirfa'r Termiadur Ysgol. Mae ACCAC a CBAC wedi
hysbysu'r ysgolion mai'r termau a restrir yno yw'r rhai a fydd yn ymddangos
yn eu deunyddiau dysgu ac asesu o hyn ymlaen. Cyhyd â bod y term yn y
Termiadur, teimlaf y dylem geisio cadw hyn mewn cof.
Tybed felly a fyddai modd i ni fodloni ar y termau magnet (gyda t, yn
hytrach na d) ac oergell (am refrigerator, gan neilltuo rhewgell i
ddisgrifio freezer/deep freeze)?
Dw i'n siwr y byddai'r disgyblion yn gwerthfawrogi gweld y math yma o
gysondeb yn eu haddysg wyddonol a'u bywyd bob dydd.
Huw
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|