>Sut mae sillafu enw Owain Glyn Dwr / Glyndw/r? Richard Crowe
Mae ambell neges wedi ymddangos yn sgil cwestiwn Richard Crowe - ond nid
oes neb wedi esbonio pam ei bod yn well gan rai awduron y ffurf Glyndw/r a
chan eraill Glyn Dw/r. Er enghraifft, beth oedd ysgogiad y Dr. John Davies
dros y ffurf Glyn Dw/r? Ai mympwy fu hyn, neu ailddechrau defnyddio ffurf
hanesyddol? Y mae Geiriadur yr Academi (o dan y prifair Glendower) yn cynnig
Glyn Dw^r yn unig. Credaf i 'Hanes Cymru' y Dr. Davis ymddangos cyn
cyhoeddi'r geiriadur (1995).
________________________________________________________________________
Get Your Private, Free E-mail from MSN Hotmail at http://www.hotmail.com
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|