Un o fanteision derbyn y ddeuawd -wr /-ydd yw'i bod yn galluogi rhywun i wahaniaethau rhwng y person sy'n gyfrifol am y weithred a'r ddyfais sy'n ei g/alluogi i wneud. Ymhlith darlledwyr, er enghraifft, gan fod y gair recorder wedi ennill ei blwy i dydnodi peiriant, recordist yw'r sawl sy'n ei ddefnyddio. Yn yr enghraifft arbennig yr holodd Dafydd yn ei chylch, mae'r cysyniad o viewer yn rhy bell o'r bod dynol yn eistedd o flaen rhifyn heno o Pobol y Cwm i eistedd yn esmwyth ar y gair gwyliwr. Ni welaf dyletswydd ar y Gymraeg i dderbyn amwysedd diangen o'r Saesneg. Ac ni allaf gytuno bod edrychyddion mor drwsgl â hynny, mwn cosmos sy'n cynnwys Llanfaircaereinon, Ashby-de-la-Zouche, trosglwyddyddion, neu fritillary. Fodd bynnag, manylder sy'n cyfrif fwyaf mewn iaith dechnegol, nid ceinder.
Tim
>>> Ann Corkett <[log in to unmask]> 08/03 7:13 pm >>>
Nid wyf yn bleidiol i'r terfyniad diangen "-ydd" (yn hytrach nag "-wr"),
nac i'r lluosog trwsgl "edrychyddion".
Pa reswm sydd dros fathu gair newydd diangen? Ni wnaethpwyd mo hynny yn
Saesneg. Beth sy'n bod ar "gwyliwr", y gair arferol, peth sy'n caniatau
ichi wylio rhywbeth?
Bruce
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|