Bruce Griffiths a'r Shoa
Y drwg yw nad ydyw'r gair Cymraeg a ddyfynid yng "Ngeiriadur Yr Academi" wedi
dod i lawn gyfleu yr arswyd uffernol sydd yn gynwysiedig yn y gair Saesneg,
"holocaust". Ac efallai y dyliem wneyd eithriad gyda'r gair "Shoa", a'i
dderbyn yn ei grynswth.
MT
Ann Corkett wrote:
> Nid oes angen "Shoah" na'r un gair estron arall. Diangen yw mabwysiadu
> geiriau estron pan fo geiriau Cymraeg hollol foddhaol gennym eisoes, neu
> ddown ni byth i ben.
>
> Ar ben hynny, er gwaethaf awgrym olaf Tim Saunders, mae 'na berygl os daw'r
> gair "Shoah" i gael ei ddefnyddio'n gyffredinol y bydd yn cryfhau'r argraff
> mai rhywbeth a ddigwyddodd i Iddewon yn unig oedd y Distryw.
>
> Bruce Griffiths
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|