Yng "Ngeiriadur yr Academi" codwyd "diofyn" etc o ryw restr neu'i gilydd,
yn y dyb ddiniwed fod gan gyfrifiadurwyr ryw syniad am ba beth yr oeddynt
yn son. Daw'n fwyfwy amlwg nad yw hynny'n wir.
Cyfyd yr holl anhawster o'r defnydd cwbl hurt o'r gair "default" i olygu
rhywbeth gwahanol i'w ystyr gysefin. Byddai rhywun yn disgwyl "diffyg",
"diffygio", "diffygiol". Yn lle'r cynnig "(mewn absenoldeb ateb = 2000)"
ar gyfer "(Default = 2000)", byddwn i'n awgrymu: "(yn niffyg ateb = 2000)"
O ran y cynnig "rhagosod" etc. Mae "rhagosod" yn ddiangen. Mae "gosod"
(berf, ansoddair), "gosodiad" yn ddigon.
Bruce Griffiths
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|