Nid oes angen "Shoah" na'r un gair estron arall. Diangen yw mabwysiadu
geiriau estron pan fo geiriau Cymraeg hollol foddhaol gennym eisoes, neu
ddown ni byth i ben.
Ar ben hynny, er gwaethaf awgrym olaf Tim Saunders, mae 'na berygl os daw'r
gair "Shoah" i gael ei ddefnyddio'n gyffredinol y bydd yn cryfhau'r argraff
mai rhywbeth a ddigwyddodd i Iddewon yn unig oedd y Distryw.
Bruce Griffiths
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|