Subject: default
Oddi wrth: Richard Hughes <[log in to unmask]>
Ysgrifennodd Dafydd Roberts <[log in to unmask]>:
>Mae default yn Saesneg yn cael ei ddefnyddio fel enw, ansoddair a berf.
>e.e.
>Please enter the year (Default=2000)?
>The default response is indicated by []
>The year defaults to 2000
Ni fedraf ddychmygu enghraifft lle bo'r gair 'default' yn cael ei defnyddio
fel enw. Yn yr enghraifft gyntaf mae'n ansoddeiriol; nid yw'r ffaith
bod yr enw (goleddfaol) dim (bob tro) yn cael ei argraffu'n echblyg yn newid
rhan ymadrodd y gair 'default'; gwir ystyr y cymal (Default=2000) yw
(Default year=2000) - felly mae'r ddwy enghraifft gyntaf yn gyfartal o
safbwynt cystrawennol.
Mae'r trydydd enghraifft yn dangos mor ddiofal yr ydym wrth lunio
negeseuon (yn y maes cyfrifiadurol); sut (ddiawl) y medr 'year' troi'n
'2000' - meddyliwch am y peth. Mae awdur y ffiloreg hon yn dibynnu
ar dderbynnydd y neges deall y cyd-destun; heb gyd-destun nid oes
synnwyr i'r frawddeg. Beth a olygir yma yw (e.e.):
"If the program cannot determine a valid value for the data
field 'year', then the latter shall be initialised with
the value '2000' by default"
- sydd yn hollol ddiamwys, braidd yn bedantaidd ac yn sicr rhy hir;
felly beth sydd o'i le a^
"The value of the year field defaults to the value 2000" ?
neu, yng ngeiriau'r hen Philip Jones, Porthcawl "Ie ffrinds, ie
ffrinds <swn carthu corn gwddf> dyna welliant, dyna welliant".
Richard Hughes
Gesellschaft beratender Informatiker mbH
Muenchen
Yr Almaen
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|