Sylwais fod y term 'joined-up' yn magu adenydd nwydd ryw ddeng mlymedd yn ol, pan gai ambell i wleidydd neu gymeriad cyhoeddus arall ei ddodi'n deg yn ei le gyda'r ymadrodd "*** hasn't mastered joined-up writing yet." Isafswm aeddfedrwydd elfennol yw ergyd y term, mae'n debyg.
>>> "Catrin Alun" <[log in to unmask]> 07/21 12:11 am >>>
Mae gen i rai termau sy'n achosi penbleth i mi ar hyn o bryd - unrhyw gynigion?
Engaging the community - ymgysylltu â'r gymuned sydd gen i ar hyn o bryd, ond dydwi ddim yn rhy hapus.
joined-up government - cydgysylltiedig efallai? Neu a oes term yn bod eisoes?
outsourcing ydy'r llall - dwi wedi cynnig alldarddu - ond mae'n air mor od hyd yn oed yn Saesneg!
Dwi'n siwr y bydd gen i ragor cyn y daw'r ddogfen hon i ben!
Catrin
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|