Erbyn meddwl, dadl arall o blaid 'Distryw' yn hytrach na 'Shoah' yw bod modd defnyddio'r gair cysefin mewn cyd-destunau cyffelyb lle nad yw'r Iddewon dan sylw, e.e. yr hyn a wnaeth y Natsiaid i'r Sipsiwn. (Ni chofiaf y gair Romanes ar hyn o bryd, ond mae'n golygu rhywbeth yn debyg i 'traflyncu').
>>> Ann Corkett <[log in to unmask]> 07/04 11:59 am >>>
"Llosgaberth" yw'r gair traddodiadol, hwnnw a gynigir gyntaf yn "Ngeiriadur
yr Academi", ac mae'n hen ddigon da. Cytunaf nad yw "poethoffrwm" yn
cyfleu'r hyn a ddigwyddodd yn y Rhyfel. Trwsgl iawn yw "Holl-losgiad" a
byddai "y Sioa" yn annealladwy. Byddai "y Distryw [Mawr]" neu "y Gyflafan
Fawr" yn dderbyniol
Bruce
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|