Annwyl Deri,
Mae hyn yn swnio'n ddigon teg - problem gyffredinol yw geiriau sy'n meddu ar ystyr arbennig mewn rhyw grefft neu wyddor, ni waeth beth fo'r maes arbennigol. Lle bo nifer o dermau yn golygu pethau tebyg, neu yn ymddangos yn debyg, mae'r dryswch yn mynd yn waeth byth weithiau. Gallaf feddwl am sawl enghraifft o fyd y gyfraith, e.e. 'contract/cytundeb', 'profiannaeth/prawf'. Nid yw hyn yn gyfyngedig i'r Gymraeg o bell ffordd - cymharer y duedd ar lafar yn Saesneg i ddefnyddio'r gair brief i gyfeirio at unrhyw fath o gyfreithydd. Ond i rywun egluro'i fod/bod am ddefnyddio'r term yn ei ystyr dechnegol, ac ni fyddai esgus gan neb wedyn am gamddeall.
Tim
>>> "A.D.Tomos" <[log in to unmask]> 07/27 12:13 pm >>>
Annwyl Tim,
Bwrdwn fy ail neges uchod oedd i beidio gwahaniaethi. Does dim ots os ydy
delweddau poblogaidd a llenyddol yn "camddefnyddio" termau o'r fath. Un
canlyniad fyddai esgymuno gwyddoniaeth yn y Gymraeg am byth i fydysawd
gyfochrog - rwyf wedi treilio blynyddoedd yn ceisio osgoi hyny. (Dyna pam
yr arswydaf wrth weld "cyflin" - gair hollol estron. Gyda llaw, hefyd yn
air a fyddai bron yn amhosibl ei ddefnyddio ar lafar - "cf cyflym".)
yn ddiweddar cawsom y drafodaeth ar "boot" - engraifft fendigedig o
thechnoleg a bywyd pob dydd yn chwarae a'r un geiriau.
Deri.
Tim Saunders wrote:
>
> Tybed a fyddai'n syniad da, gyda rhai termau fel hyn sydd wedi llithro drwodd i iaith bob dydd, i wahaniaethau rhwng cysyniadau mathemategol a gwyddonol ar y naill llaw, a delweddau poblogaidd fel, e.e. yr 'hyperspace' sy'n galluogi gofodwyr glew i deithio yn gyflymach na goleuni?
>
> Tim
>
> >>> "A.D.Tomos" <[log in to unmask]> 07/27 11:49 am >>>
> Mae'r syniad yn un amserol iawn ym myd ffiseg (gw. y Scientific American
> diweddaraf). Wela'i ddim rheswm i beidio ddefnyddio "bydysawd gyfochrog".
> (Yn ol Sci Am. efallai ei bod mor agos ag 1 mm i ffwrdd; er dwy ddim yn
> sicr beth yw ystyr pellter wrth drafod y peth.) Tybed beth mae Geraint
> Vaughan yn meddwl ?
>
> Deri
>
> "Crowe, Richard (OPO)" wrote:
> >
> > Unrhyw gynigion am 'parallel universe'?
> >
> > However, the more I sit here the more I wonder whether there are a number of
> > parallel univserses which different people inhabit.
> >
> > Richard Crowe
> > Y Prosiect Rheoli Terminoleg
> > Terminology Management Project
> >
> > Y Gwasanaeth Cyfieithu
> > Translation Service
> > Cynulliad Cenedlaethol Cymru
> > National Assembly for Wales
>
> --
>
> ________________________________________________________
>
> Yr Athro A. Deri Tomos Prof. A. Deri Tomos
> Ysgol Gwyddorau Bioleg, School of Biol. Sciences,
> Prifysgol Cymru Bangor, University of Wales Bangor,
> Bangor, Gwynedd, Bangor, Gwynedd,
> LL57 2UW, Cymru LL57 2UW, Wales
>
> tel: (uk int +) (0)1248 382362
> ffacs/fx: (uk int +) (0)1248 370731
> llythel/e-mail: [log in to unmask]
> rhwyd/internet: http://sbsweb.bangor.ac.uk/people/004158
> _______________________________________________________
--
________________________________________________________
Yr Athro A. Deri Tomos Prof. A. Deri Tomos
Ysgol Gwyddorau Bioleg, School of Biol. Sciences,
Prifysgol Cymru Bangor, University of Wales Bangor,
Bangor, Gwynedd, Bangor, Gwynedd,
LL57 2UW, Cymru LL57 2UW, Wales
tel: (uk int +) (0)1248 382362
ffacs/fx: (uk int +) (0)1248 370731
llythel/e-mail: [log in to unmask]
rhwyd/internet: http://sbsweb.bangor.ac.uk/people/004158
_______________________________________________________
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|