Roger Fenton:
Dyma lythyr diddorol. 'Rydw innau wedi clywed, hefyd, fod rhai pobl byddar sydd
yn defnyddio IAA (yn yr U.D., pa un bynnag) yn gweld eu hunan yn garfan
arbennig, ac fod y rhai ohonnynt sydd yn cario'r syniad hwn i eithafon, yn dal
mae gwadu etifeddiaeth brin fyddai i ddim un ohonnynt fynd o dan law-driniaeth
er mwyn ennill eu clyw.
Ond os am ddefnyddio y term "gwefus-ddarllenwr", beth am newid trefn y ddau air,
a'u hail osod yn fwy naturiol fel "darllenydd-gwefusau". Cyfieithu y term
Saesneg am y syniad ydym ni, yn y ddau ffurf, ac mae'r ail engraifft yn swnio yn
fwy derbyniol i 'nghlyst i.
MT
Roger Fenton wrote:
> Tra 'roeddwn i'n byw yn Chicago ac yn astudio Iaith Arwyddion Americaneg,
> fe ces i'r teimlad cryf bod a bobl byddar sydd yn defnyddio IAA (ASL) fel
> eu hiaith gyntaf yn gweld eu hunaun fel grwp ethnig (IAA yw'r trydedd iaith
> yr Unol aleithiau, ar o^l Saesneg a Sbaeneg), a nid oeddent yn ystyried
> pobl byddar a oedd yn "oralist" fel rhan o'r grwp, gan nad oedd y rhai a
> oedd yn darllen gwefusau yn unig yn siarad yn un iaith: "Saeson" oedden
> nhw! (Rwyn disgrifio'r sefyllfa tua 1971-72). Mae Tim yn iawn am y ffaith
> nad oedd y bobl byddar a oedd yn defnyddio IAA fel eu hiaith gyntaf yn
> gweld eu hunain fel pobl anabl, mor bell ag y mae'r UDA yn y cwestiwn; dydw
> i ddim yn sicr am y sefyllfa yma.
> Dydy i ddim yn hapus gyda "gwrtharwyddwr" am "oralist", gan ei fod e'n
> ffurf negyddol o ddisgrifio. Nag oes modd bositif? Fel rhywun sydd yn
> darllen gwefusau yn aml, 'rwyn gweld fy hunan fel gwefus-ddarllenwr, yn
> hytrach na rhywun sydd yn erbyn defnyddio arwyddion: i bobl sydd yn fyddar
> iawn, rydw i'n hybu yr ieithoedd arwyddion (mae sawl un, wrth gwrs). Ond
> mae sawl arweinydd o'r garfan "oralist" yn wir yn ffyrnig yn erbyn
> arwyddion o hyd.
> A oes rhywun wedi cysylltu a Phifysgol Gallaudet yn Washington DC?
> (http://www2.gallaudet.edu/) Nhw yw'r unig brifysgol ar gyfer pobl byddar
> yn y byd.
>
> At 20:14 11/07/00 +0100, you wrote:
> >
> >----- Original Message -----
> >From: Tim Saunders <[log in to unmask]>
> >To: <[log in to unmask]>
> >Sent: Thursday, July 06, 2000 10:16 AM
> >Subject: Re: Byddar
> >
> >
> >> Oes, y mae angen pendant, gan fod 'byddar' yn dynodi cyflwr awdiolegol tra
> >bo 'Byddar' yn mynegi hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol. Nid yw rhai sy'n
> >eu disgrifio'u hunain fel 'Byddar' yn canfod eu sefyllfa gymdeithasol fel un
> >lle mae'r cysyniad o anabledd yn berthnasol. Yn yr amgylchiadau, nid yw swn
> >y gair mor bwysgig ag y gallai fod!
> >>
> >> Mae 'gwrthwrwyddwr' yn swnio'n addawol iawn.
> >>
> >> Tim Saunders
> >>
> >> >>> Ann Corkett <[log in to unmask]> 07/05 4:16 pm >>>
> >> "byddar/Byddar" - A oes angen gwahaniaethu o gwbl. Sut yr awgrymir
> >> gwahaniaethu wrth siarad?
> >> "oralist" - ??Gwrtharwyddwr
> >>
> >> Bruce Griffiths
> >>
> >>
> >>
> >
> >
> >
> Roger Fenton
> Cynorthwy-ydd Ymchwil / Research Assistant
> Information Automation Ltd.
> c/o Adran Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth
> / Department of Information and Library Studies
> Prifysgol Cymru Aberyswtyth / University of Wales Aberystwyth
> Campws Llanbadarn Fawr / Llanbadarn Fawr Campus
> Aberystwyth, Ceredigion SY23 3SA
> ffon / phone: +44(0)1970 621 805
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|