Tim Saunders:
> Beth yw barn y brodyr a'r chwiorydd am y ffordd orau o leihau'r
amwysedd sydd yn y maes yma. Heb fynd i ormod o fanylion, nodaf y
canlynol:
> Adran = 'section' (sef 10 o filwyr), = 'division' (sef tua
10,000 o filwyr)
> Ymosodiad = 'attack', = 'assault' (sef rhan olaf yr
ymosodiad, rhwng croesi'r llinell gychwyn a meddiannu safle'r gelyn)
> Marchoglu = 'cavalry' = 'troop' (sef uned sy'n
cyfateb i gwmni o filwyr traed)
Gallech chi ofyn i'r Weinyddiaeth Amddiffyn - dylen nhw wybod.
Mae'r manylion canlynol yn dod o'u cynllun iaith nhw (
http://www.mod.uk/index.php3?page=1015 )
> 5.19 Bydd copiau o’r Cynllun ar gael drwy wneud cais o CSE
Llangennech, Llanelli,
> Sir Gaerfyrddin SA14 8YP (01554) 822533/400. Dylai’r cyhoedd
ysgrifennu at yr
> Uned Ohebu yn y cyfeiriad uchod am gopi.
Mae 'na rhyw son am strwythur y fyddin ar y tudalen canlynol o dan y
teitl "Beth wyddoch chi am ...?" ( http://www.mod.uk/index.php3?page=911
).
Dyma enghraifft:
> Y Corfflu Arfog Brenhinol (RAC) a Gwyr Meirch y Teulu - Mae’r RAC yn
> cynnwys Catrodau o Wyr Meirch a’r Gatrawd Danciau Frenhinol. Mae’n
cynnig
> grym arfau symudol ac mae ar ganol y broses o gael ei gyfarparu â
thanciau Challenger 2.
> Milwyr Traed - Wedi’u cyfarparu â Cherbyd Ymladd Arfog Warrior, prif
> swyddogaeth y Milwyr Traed yw dod o hyd i’r gelyn a’i ddifa ar y
ddaear.
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|