Yn yr UD hefyd, mae'g gymuned buddar yn gwahanieuthu rhwng "deaf people" a
"the Deaf" hefyd, pan yn siarad. Hefyd, mae llawer (fel detour bach) o bobl
byddar yn gwrthod galw eu hunain yn fyddar o gwbl, ond yn drwm eu clyw, os
oes unrhyw mymryn o glyw i'w gael; mae statws ymhlith y byddar yn debyg i
statws ymhlith rhai gymunedau croen-ddu. Rydw i wedi danfon fy ngeiriaduron
arwyddion ASL at gyfnither ar gyfer ei mab, ond rydw i'n gallu gofyn iddi
edrych lan os oes eisiau (ond, os oes eisiau, gofynnwch yn syth, gan ei bod
hi'n dod i Gymru o fewn pethefnos ar wyliau), i gymharu yr arwyddion.
Roger
At 12:45 17/07/00 +0100, you wrote:
>Oes, y mae gwahaniaethau yn yr arwyddion - gw. tt. 390-1, 906 Dictionary
of British Sign Language / English , gol. David Brien, Faber & Faber,
Llundain, 1992.
>
>>>> Ann Corkett <[log in to unmask]> 07/06 6:25 PM >>>
>Ateb hirwyntog gan Ann - heb help Bruce!!
>
>'Rwy'n meddwl mai at "Gramadeg y Gymraeg" Atodiad IV.38, gwaelod tudalen
>779, mae Richard Hughes yn cyfeirio, ond nid wyf yn teimlo bod y
>gymhariaeth yn un deg. Mae'r llyfr yn son am ddefnyddio acen ddyrchafedig
>naill ai (i) i ddangos bod yr acen yn syrthio mewn lle annisgwyl neu (ii)
>fel y gall y darllenwr weld y gwahaniaeth rhwng gair sydd yn defnyddio "w"
>fel cytsain ac un sydd yn defnyddio "w" fel llafariad.
>
>Mae'r ddau "gwraidd" yn dod o "wreiddiau" hollol wahanol. Mae'r "gwraidd"
>sy'n golygu "root" yn defnyddio'r "w" fel cytsain (cf. "gweld"), ac felly
>mae'r gair yn un unsill. Mae'r "gwraidd" sy'n golygu "dewr" yn defnyddio'r
>llythyren fel llafariad (cf. "y gwter"). Felly mae'r gair yn un deusill.
>'Does dim problem gwahaniaethu rhwng y ddau air ar lafar, dim ond ar bapur.
> Mae'r acen yn "gwraidd" ("gwr-aidd"= "man-ly") ar lafar yn syrthio ar y
>sillaf olaf ond un, lle byddid yn ei disgwyl yn y Gymraeg. Nid yw'n
>enghraifft o (i) uchod, ond o (ii). Byddai "Bydda/r" yn enghraifft o
>gategori (i), gyda'r acen mewn lle anarferol.
>
>Mae (i) a (ii) yn y llyfr yn ymwneud a geiriau sydd eisoes mewn bod ar
>lafar, lle nad oes modd eu camgymryd. Nid ydynt yn ymwneud a newid
>ynganiad gair ar lafar, a'i acennu'n annaturiol, er mwyn gwahaniaethu
>rhyngddo a gair arall, a oedd yn wreiddiol yr un gair. Am wn i dyma beth
>sydd wedi digwydd i"diflas" a "di-flas", ond mae'n swnio'n "bizarre" imi
>(ac yn yr achos hwn yn odli efo fo hefyd), (Wrth feddwl, mi wnaeth Cynthia
>Bucket, yn y gyfres deledu, fynnu ynganu ei henw'n "Bouquet".)
>
>
>Fel arfer, mae'n debyg, mae'r term llafar yn effeithio ar sillafu'r term
>ysgrifenedig, yn hytrach na bod rhyw gonfensiwn ysgrifenedig yn effeithio
>ar yr ynganiad llafar. Er gwaethaf sylw Bruce, allen ni gymryd bod y
>Saeson eisoes yn defnyddio "deaf/Deaf" heb ddrysu? Ond fel mae Tim
>Saunders, yn dweud "yn yr amgylchiadau, nid yw swn gair mor bwysig ag y
>gallai fod!",sef ni fydd y rhan fwyaf o'r bobl (fyddar/Fyddar) sy'n ei
>ddefnyddio yn gallu ei glywed. Os felly, sut maen nhw'n gwahaniaethu wrth
>arwyddo? Ydy'r arwyddion ar gyfer y ddau air rywbeth yn debyg, neu'n
>hollol wahanol? Ydy'r syniad(au) a gyfleir yn awgrymu defnyddio gair
>Cymraeg arall - fel y bydden ni'n cyfieithu o'r "iaith" wreiddiol yn lle
>o'r cyfieithiad Saesneg!
>
>
>
>
Roger Fenton
Cynorthwy-ydd Ymchwil / Research Assistant
Information Automation Ltd.
c/o Adran Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth
/ Department of Information and Library Studies
Prifysgol Cymru Aberyswtyth / University of Wales Aberystwyth
Campws Llanbadarn Fawr / Llanbadarn Fawr Campus
Aberystwyth, Ceredigion SY23 3SA
ffon / phone: +44(0)1970 621 805
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|