Dwi wedi cael y Capacity Building in Communties yna hefyd, gyda Chyngor y
Celfyddydau - bum yn crafu pen yn hir drosto - be ddefnyddiais i yn y diwedd
oedd Meithrin Galluoedd - dwn i ddim os oedd hynna'n fanwl gywir oedd roedd
i'w weld yn cyfleu'r ystyr yn y cyd-destun - a does neb wedi cwyno eto.
Dach chi yn llygad eich lle efo'ch cail bwynt - er bod gan y Saesneg gyfoeth
o gyfystyron yn sgîl ei thras amryfath eto i gyd mae hi'n aml yn defnyddio
un gair i gyfleu llu o ystyron - peth rhyfedd, ynte?
Annes
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|