Neges gan Bruce Griffiths:
Mae llawer gormod o fathu geiriau anghywir, diangen ac annaturiol megis
'gwerthuso'. Beth sydd o'i le ar y termau arferol a thraddodiadol,
'cloriannu' a 'mantoli' (ac felly 'cloriannwr', 'mantolwr' ayb.)?
Gellir dweud 'hwyluso', parchuso' ayb am fod 'hwylus', 'parchus' yn bod.
Nid yw 'gwerthuso', 'gwerthusiad', 'gwerthuswr' yn ffurfiau cywir o gwbl
gan nad oes ansoddair 'gwerthus' yn bod.
Nid oes angen 'arfarnu' o gwbl.
Neges gan Ann:
Gwn fod Bruce yn teimlo'n gryf iawn am hyn, ond fel cyfieithydd masnachol,
gwn fod 'gwerthuso' ac 'arfarnu' yn cael eu defnyddio (yn arbennig mewn
rhai meysydd), ac nad yw rhai cwsmeriaid, yn eu hanwybodaeth, yn hapus imi
ddefnyddio e.e. 'cloriannu' lle maent wedi arfer a 'gwerthuso'. Beth yw
barn pobl eraill - onid yw'n werth ymgyrchu i ailafael yn y termau
traddodiadol?
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|