Mae'n amlwg bod "capacity" yn friair ar hyn o bryd.
Bum yn cyfieithu ar y pryd neithiwr mewn cyfarfod lle 'roedd cryn dipyn o
drafod ar "Capacity-Building Initiatives for Communities", nes i rywun ofyn
sut y dylid ysgrifennu teitl y cynllun yn Gymraeg. Pawb yn lladd ar
"jargon elitaidd" ac yn cynnig pethau fel
"galluogi/arfogi/hyfforddi/ymrymuso pobl" i gyfleu ystyr
"capacity-building".
Ar ol y cyfarfod, ceisiodd aelod di-Gymraeg dynnu fy nghoes drwy ofyn a
oedd y drafodaeth yn adlewyrchu "a lack of capacity in the Welsh language".
'Roeddwn i'n falch o gael dweud wrtho ei bod, yn hytrach, yn adlewyrchu
cyfoeth yr iaith a gormodedd o ddewis.
Ann
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|