Annwyl bawb,
Mae'r neges ganlynol newydd ymddangos yng Nghylchlythyr Wythnosol y BBC
'Cymru a'r Byd'):
>Yr ydym wedi bod yn son o'r blaen am y gwahanol dermau sy'n cael eu
>defnyddio ar y we; gyda geiriau newydd fel gwefan, hafan, dadlwytho, porydd,
>cyrchwr, post tost a gwebost yn ennill eu lle yn y Gymraeg.
>Nid bob amser, fodd bynnag, y mae pawb yn cytuno a thermau ei gilydd. Mae'n
>well gan rai safwe na gwefan ac yr ydw i wedi clywed ambell un yn dadlau'n
>groch dros ddalen gartref yn hytrach na hafan.
>Dros yr wythnosau nesaf y mae'n fwriad gennym ni ar BBC Cymru'r Byd lunio
>casgliad o dermau'r we sy'n cael eu defnyddio - ac hyd yn oed fathu geiriau
>ac ymadroddion Cymraeg lle nad oes rhai yn barod.
>Rwy'n gobeithio'n fawr y gallwch chi helpu yn hyn o beth trwy wneud un neu
>fwy o'r pethau hyn:
>1 anfon atom restr o dermau yr ydych chi yn eu defnyddio yn barod
>2 anfon rhestr o dermau yr ydych yn anhapus a hwy am rhyw reswm
>3 anfon awgrymiadau o dermau gwell
>4 anfon rhestr o dermau Saesneg/Americanaeg yr ydych yn cael trafferth dod o
>hyd i ffurf Gymraeg amdanynt neu yr ydych yn anhapus â'r ffurfiau sy'n
>cael eu cynnig yn barod
>Byddwn yn wirioneddol ddiolchgar o'ch cydweithrediad ac edrychaf ymlaen at
>dderbyn eich llygod, FTPs, HTMLs, Soundcards, bysellfyrddau ac yn y blaen.
>Rwy'n siwr ein bod ar fin cychwyn ar drafodaeth fuddiol a diddorol iawn.
Cyfeiriad y rhestr yw: <[log in to unmask]> ac mae Gwefan Gymraeg y BBC yn
http://www.bbc.co.uk/cymru/
Cofion,
Andrew
-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-
Andrew Hawke [log in to unmask] (01970)627513 (+44)1970 627513 (fx627066)
Golygydd Cynorthwyol/Rheolwr Systemau Asst. Editor/Systems Manager
Geiriadur Prifysgol Cymru University of Wales Dictionary
Llyfrgell Genedlaethol Cymru National Library of Wales
Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH, U.K.
URL: http://www.aber.ac.uk/geiriadur/
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|