Oddi wrth: Richard Hughes <[log in to unmask]>
Testun: Y 'genynnols' yn erbyn y 'genetigs'
Ti^m y 'genynnols' a thi^m y 'genetigs' - pe baent yn cystadlu
ar faes 'Geiriadur yr Academi' - buasai'r 'genetigs' yn dyrnu'r
'genynnols' o 59 - 6. Scorwyr y 'genynnols' yw:
genetic code - co^d genynnol
gene pool - cyfanswm genynnol
gene recombination - ailgyfuniad genynnol
genetic - genynnol
genetic drift - symudiad genynnol
genetic isolation - arwahanu genynnau (? tybiaf bod genynnau yn anghywir yma,
ansoddeiriol yw 'genetic' felly
arwahanu genynnol sydd yn gywir).
Y 'genetigs' piau'r gweddill; yn enwedig, maent yn ennill gyda thermau o'r
cyfansoddiad:
[xxx]genetic -> [yyy]genetig {[xxx]/[yyy] yn rhagddodiaid}
e.e.
cytogenetic -> sytogenetig
ac, wrth gwrs, yr adferfau sydd yn tarddu o'r uchod:
[xxx]genetically -> yn (tr. medd.)[yyy]genetig
e.e.
morphogenetically -> yn forffogenetig
Ni fedraf weld rheol na rheswm y tu o^l i baham mai'r naill air yn
ennill y blaen ar y llall (rhesymau hanesyddol?); gwell gennyf 'genynnol'
na 'genetig' (sydd yn cyfieithiad digon ffiaidd o'r gair 'genetic' [efallai
mai Gwilym Owen "Y Cymro" piau hwn hefyd?]).
Mawr obeithiaf bod yr ystadegyn uchod o ryw les i Ann Corkett a'i phroblemau.
Fy ngwerth sei
Richard Hughes
Gesellschaft beratender Informatiker mbH
Muenchen
Yr Almaen
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|