Darllenais nodyn Ann Corkett yn holi yngly+n â defnyddio 'genetig' neu
'genynnol'. Wrth baratoi adnoddau gwyddoniaeth i ysgolion, defnyddiaf
'genyn/genynnau' am 'gene(s)' ond yna 'geneteg' am y maes a 'genetig' am
bethau'n ymwneud â'r maes hwnnw. Sylwaf hefyd fod dogfen y Cwricwlwm
Cenedlaethol newydd ar gyfer gwyddoniaeth yn defnyddio'r termau 'amrywiad
genetig' a 'pheirianneg genetig'.
Huw Roberts
Uned Iaith Genedlaethol Cymru CBAC
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|