Mae'r iaith Saesneg wedi dadblygu yn iaith digon esmwyth iddi hi fedru derbyn,
yn rhwydd, eiriau sy'n addas i ddisgrifio, ynddi, y newidiadau diweddaraf ym
mhrofiad y byd, ac yn nhyfiant gywbodaeth gwyddonol.
Ac mae rhai o bobl sydd yn cyfrannu i'r y safle hon, yn rhoi yr argraff fod y
Gymraeg, hefyd, yn meddu yr un addusrwydd. Ond dylier bod yn ofalus rhag
llygrygeiddio'r iaith wrth ddod i'r fath ganlyniad yn ei chylch, a dyna sydd yn
digwydd yn aml wrth i rywun geisio cyfieuthu i'r Gymraeg rhai termau technegol.
Un engraifft o hyn ydyw y gair "globalization", sydd wedi dod i sylw dro yn ôl
yn un o'r sgyrsiau ar y ddalen hon. Cyn ceisio addasu gair fel hwn i'w
ddefnyddio yn y Gymraeg fe ddylir sicrhau beth ydyw'r syniad sydd yn gynwysiedig
yn ei ystyr. Yn ôl "Geiriadur Mawr Webster" (y geiriadur mwyaf dethol i'r diben
hwn, yn 'y marn i) ystyr "golbalization", yn syml, ydyw "ymestyn i'r holl fyd",
neu "ymestyn drwy'r holl fyd".
Pam, felly, fod raid creu gair carbwl pan mae hi'n llawn mor hawdd cyfleu yr
ystyr yn gywir mewn dau neu dri gair llawer mwy cyfaddas, 'Does dim o'i le mewn
ddefnyddio, un âi mewn darlith neu mewn ysgrif, yr ymadroddiad "yn ymestyn i'r
holl fyd", "neu ymestyn drwy'r holl fyd", yn hytrach na'r gair "globaleiddio",
fel caiff ei gynnig yn un o'r llythyrau i'r safle hon.
Mae ryw gythraul ar fod, sy'n mynny fod llychwino Cymraeg gyda ryw dermau carbwl
fel hyn, yn fwy tebol o greu yr argraff ei bod hi'n iaith gyfoes, sydd yn gymwys
i drafod pynciau technegol ynddi. Yn sicr mae angen addasu'r Gymraeg i dderbyn
termau technegol modern, ac yn aml bydd raid gwneyd beth mae ieuthoedd eraill
drwy'r byd yn ei wneyd, sef derbyn yn eu crynswth eiriau unigryw sydd eisioes ar
fod mewn iaith arall, ac sydd yn wir briodol i'w cymhwysiad. A 'does dim angen i
ail esgor arnynt yn ryw hen dermau gordderch ac ansoniarus
Os oes dywediad cyffredin ac addas mewn bod yn Gymraeg, dyna ddyliau gael ei
ddefnyddio, neu 'rydym mewn peryg' o wneyd yr un cam a'n hiaith ni ac a wneir yn
aml â'r Saesneg gan bobl nad ydynt yn wir hyddysg ynddi'. Ac i guddio diffyg eu
coethder maent yn creu geirfa o "jargon", sydd bron yn hollol annealladwy i neb
ond i'r ychydig rai a'i creuodd. Dyna sydd i'w weld yn digwydd yn y Gymraeg,
hefyd, am fod llawer o bobl nad oes ganddynt ond ryw grap, un unig, ar yr
iaith, yn ceisio tylino ei chystrawen a'i hidiomau i ryw ffurfiau sydd yn
gymwys i'w hanallrwydd hwy.
Byddaf yn rhyfeddu at y ffordd mae'r Hebraeg wedi ei haddasu i'w safle modern yn
y byd. Bu'r Hebraeg yn iaith farw am bron i ddwy fil o flynyddoedd, ac eithrio
i'r bwriad o gynnal gwasanaethau ynddi mewn ryw chydig o Synagogau. Ond erbyn
heddiw, drwy ymdrech deg ar ran ond ryw ddyrnaid o ysgolheigion Hebreaidd, mae
hi'n iaith goeth a chyfoethog, sydd yn addas i bobl Israel i'w defnyddio i drin
â'r pynciau mwyaf dwys ynddi. Pa'm na wnawn innau ymdrech mwy tebyg i hyn pan yn
ceisio addasu'r Gymraeg i'r un perwyl?
MT
Jasper, AB
Elin Haf Gruffydd Jones wrote:
> Dw i'n defnyddio globaleiddio mewn darlithoedd (Astudiaethau Cyfryngau),
> papurau ac adroddiadau ac mewn erthyglau. Ond dw i'n pendroni ynglyn â
> glocalization a dilysrwydd gair fel glocaleiddio yn Gymraeg. Unrhyw syniadau?
>
> Elin
>
> At 08:37 09/05/00 -0400, you wrote:
> >Annwyl Wybodusion,
> >
> >Tybed a oes term sy'n cael ei dderbyn yn gyffredinol (hy y cyfryngau,
> >byd addysg, ar y we) yn Gymraeg am 'globalisation'? Pan oeddwn i'n
> >chwysu uwchben Geiriadur yr Academi rai blynyddoedd yn ôl (cofio
> >Bruce...?) nid oedd neb yn sôn am y cysyniad hwn o gwbl. Diolch o
> >flaenllaw.
> >
> >Paul W Birt
> >Draw dros y Don
> >
> >
> >
> _______________________________________________
> Elin Haf Gruffydd Jones
> Canolfan Mercator / Mercator Centre
> Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
> / Dept. of Theatre, Film and Television Studies
> Prifysgol Cymru / University of Wales
> Aberystwyth
> Ceredigion SY23 2AU
> ffôn: (44) 1970 622 533
> ffacs: (44) 1970 622 190
> www.aber.ac.uk/~merwww
> [log in to unmask] / [log in to unmask]
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|