Cyfeillion,
Re: "genetically modified"
1. Cefais fy nghyflyrru y bore yma i wneud penderfyniad ynglyn a'r cnydau
GM !! "...sydd wedi'i haddasu'n enynnol.." oedd ymadrodd newyddion bore y
BBC. Fy mhroblem yw nad oes gennyf ddyrnadaeth (fel biolegydd moleciwlar,
heb son am leygwr) o sut mae gennyn yn ymddwyn er mwyn ei ddefnyddio fel
adferf. Mae'n hollol wahanol i "Gristionogol, cefnogol, ffurfiol,
gogleddol" ag ati ag ati.
2. Fel gwyddonydd sy'n ceisio egluro syniadau i fyfyrwyr a'r lleygiwr mi
rydwyn ymladd o hyd ynerbyn jargon annealladwy - mewn Saesneg - heb son am
y Gymraeg. Nid cyfieithiad o'r Saesneg (neu Groeg neu Lladin) yw'r Gymraeg
- ac mae ganddi ffurfiau (teithi 'rwyn deall yw'r term) cynhennid. Os y
bwriad yw gwneud gwyddoniaeth yn hollol estron i'r Gymraeg yna fe groesawn
trosglwyddo ffurfiau estron o'i ddisgrifio. Efallai hyd yn oed, pe bwriedir
cyhoeddi "Nature" yn y Gymraeg yn y dyfodol gellir ysyried anwybyddi teithi
Cymraeg a mabwysiadu rhai "mid-Atlantig" - ond ddim dyna'r bwriad. [Dydy
Nature ddim wedi'i ysgrifenni mewn Saesneg safonol pob dydd, ac mae'n
annealladwy i drwch y boblogeth ag iddynt addysg.] Fy nghobaith i yw
sicrhau defnydd naturiol o'r Gymraeg wrth ymdrin a gwyddoniaeth o bob math.
Nid fersiwn Gymraeg o'r ymadroddion "globaleiddiedig" ond Cymraeg.
(Wrth adolygu papurau gwyddonol i'r cylchgronnau technegol yn yn Saesneg -
rhan o'm gwaith beunyddiol -, mi rydwyn dilyn yn union yr un egwyddor.)
Efallai fy mod yn arbennig o sensitif i hwn, a'r mater tebyg o "Saesneg yn
y Gymraeg", am imi gael fy magu yng Nghaerdydd deugain mlynedd yn ol a
derbyn fy addysg coleg yn Lloegr - lle ymfalchiwn am wneud cystal a'r
Saesneg lle bo iaith gwyddonol yn y cwestiwn (..."wrth gwrs mae gennym air
am centrifuge yn y Gymraeg !). Dim ond ar ol symyd i gymuned a chymdeithas
lle 'roedd y Gymraeg yn gyflawn y sylweddolais ffolineb yr egwyddor ac mai
tueddiad "Gwlad y menyg gwynion" - a'r ymateb i'r Llyfrau Gleision oedd
hwn. (A sylweddoli yn llawn pa mor denau oedd fy ngafael fy hun ar y
Gymraeg.) MAE angen am gair am centrifuge - ond peryglus yw creu cymalau
jargonaidd o'u cwmpas. Gwell defnyddio "centrifuge" mewn ymadrodd Gymraeg
na "allgyrchydd" mewn cyd-destyn estron.
Felly - well dod a'm pregeth i ben !
3. Dydy "genetically modified" ddim yn batrwm arbennig o dda - gan fod ei
ystyr yn y Saesneg dim ond yn ddealladwy trwy hir ddefnydd - hy. mae'n
jargon ei hun. (cf. holl drafodaeth y "boot" - ond ddim mor ddiddorol).
Fy nghynnig yw:
"...a^'u genynnau wedi'u haddasu "
A. Mae hwn yn eglir (ac yn ddiamwys) ei ystyr (i unrywun sy'n gwybod beth
yw gennyn !).
B. Mae'n fyrrach na fersiwm y BBC (os ydy hynny o bwys).
C. Am wn i, mae'n Gymraeg.
Ch. Mantais annisgwyl yw fod "addasu" yn awgrymu pwrpas (neu diben) - sy'n
rhagori ar y Saesneg "modified". Mae traws-fridio cyffredin neu ffurfio
miwtantau naturiol yn engreifftiau o "modify" ond mi fyddai "addasu" yn
ychwanegu at arbenigedd yr ymadrodd.
wel, gwell imi fynd yn ol at fy mhlanhigion sydd a'u genynnau wedi'u
haddasu - ma' nhw'n galw arnaf !
pob hwyl,
Deri
--
________________________________________________________
Yr Athro A. Deri Tomos Prof. A. Deri Tomos
Ysgol Gwyddorau Bioleg, School of Biol. Sciences,
Prifysgol Cymru Bangor, University of Wales Bangor,
Bangor, Gwynedd, Bangor, Gwynedd,
LL57 2UW, Cymru LL57 2UW, Wales
tel: (uk int +) (0)1248 382362
ffacs/fx: (uk int +) (0)1248 370731
llythel/e-mail: [log in to unmask]
rhwyd/internet: http://sbsweb.bangor.ac.uk/people/004158
_______________________________________________________
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|