Gan ddibynnu ar y cyd-destun, hoffwn i gynnig "daearledaeniad" fel term am
"globalisation" (ac o ganlyniad "daearledaenu" am "globalize"). Daw'r gair
o'r ffaith bod "globally" yn cyfieithu fel "ledled daear" ac mae'r
ôl-ddodiad wedyn yr un fath a sydd yn y gair "byddiniad" sef "mobilisation"
neu yn "moderneiddiad" sef "modernisation".
> ----------
> From: Paul Birt[SMTP:[log in to unmask]]
> Reply To: [log in to unmask]
> Sent: 09 May 2000 13:37
> To: Termau Cymraeg
> Subject: holi am derm
>
> Annwyl Wybodusion,
>
> Tybed a oes term sy'n cael ei dderbyn yn gyffredinol (hy y cyfryngau,
> byd addysg, ar y we) yn Gymraeg am 'globalisation'? Pan oeddwn i'n
> chwysu uwchben Geiriadur yr Academi rai blynyddoedd yn ôl (cofio
> Bruce...?) nid oedd neb yn sôn am y cysyniad hwn o gwbl. Diolch o
> flaenllaw.
>
> Paul W Birt
> Draw dros y Don
>
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|