Mae Huw Roberts yn gywir fod cynlluniau ar y gweill i ddiwygio'r Termiadur
Ysgol, ond nid er mwyn ei osod ar y rhyngrwyd - mae wedi bod ar y rhyngrwyd
ers dros flwyddyn. Gellir ei weld ar safle MELIN ar
http://www.melin.bangor.ac.uk Mae'r Termiadur yn awr yn cael ei osod ar CD
Rom a bydd yn cael ei lansio ar Fai y 4ydd. Mae'n cynnwys tua cant o
ddiwygiadau ac ychwanegiadau. Bydd copi papur o'r rhain ar gael gan ACCAC
hefyd.
O ran yr orgraff, roedd llawer o anghysondeb yn y sillafu yn y gorffennol,
ac mae'n anorfod wrth geisio safoni na fydd pawb yn cael eu plesio. Rhaid
cofio hefyd, lle mae mwy nag un ffurf yn cael eu derbyn yn gyffredinol fel
rhai 'safonol', nad yw argymell defnyddio un ffurf er mwyn cael cysondeb o
fewn corff yn gwneud y ffurfiau safonol eraill yn 'anghywir' - mater o
arddull ty^ ydyw hyn. Wrth gwrs, ein profiad ni mewn pwyllgorau yw fod mwy o
amser ac egni yn mynd i ddadlau ynghylch manion yr orgraff na phroblemau
terminolegol gwirioneddol astrus!
Fel egwyddor mae'r Ganolfan Safoni Termau yn dilyn llyfr Orgraff yr Iaith
Gymraeg, Rhan II ar yr orgraff (argraffiad 1987 - nid yr un blaenorol). Gan
fod hwn yn annigonol ar gyfer llawer o dermau gwyddonol a diweddar, mae
hefyd yn dilyn orgraff Geiriadur Prifysgol Cymru a chyngor y tîm golygyddol
yno. Lle mae'r Geiriadur yn cynnig mwy nag un dewis, mae'r Ganolfan Termau
yn cymryd y dewis sy'n cyfateb orau i'r ynganiad llafar naturiol. Cymerwyd y
penderfyniad hwn yn sgil y gwaith sy'n cael ei wneud yng Nhgaeredin ar gael
cyfrifiadur sy'n siarad Cymraeg (h.y. yn llefaru'r geiriau sy'n cael eu
teipio iddo) a'r cyngor oddi yno i gadw'r orgraff mor agos at yr ynganiad
ffonetig ag yr oedd modd.
Mae Roger Fenton yn llygad ei le felly yn nodi fod yr ynganiad 'iwl' yn un
sy'n digwydd yn naturiol yn y Gymraeg, ac ar y sail hwnnw y dewiswyd
ffurfiau megis 'moleciwl', gan gadw mewn cof hefyd ynganiad ffurfiau eraill
(lluosogion, ansoddeiriau, berfau) sy'n rhannu'r un bôn (cf. cân Steve Eaves
"A threfn odidog moleciwlau dy gnawd"). Nid oedd yr 'i' i gael fodd bynnag
mewn geiriau megis 'modwlws' ac 'ofwl' yn y Geiriadur Prifysgol, ac mewn
achosion felly, nid oedd y Ganolfan yn teimlo y dylai 'ddyfeisio' ffurfiau
newydd.
Nid oes cysondeb perffaith felly, ond fel rheol gyffredinol, dilyn yr
ynganiad a wneir lle mae angen torri dadl rhwng mwy nag un cynnig safonol.
Delyth Prys
Canolfan Safoni Termau
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|