Dyma grynodeb sydyn o ymateb Bruce - mae o ynghlwm ym mhroflenni
ychwanegiadau i atodiad GyA - felly maddeuwch imi os ydw i wedi camddeall
neu or- symleiddio..
Mae'r hyn sydd yn GyA yn gyfaddawd rhwng y gwyddonwyr a'r ieithegwyr. Dadl
y gwyddonwyr oedd y dylid dilyn y *sillafu* rhyngwladol (h.y. Saesneg yn
bennaf) er mwyn i wyddonwyr tramor fedru deall ysgrifennu gwyddonol yn y
Gymraeg, ac er mwyn i blant Cymraeg sy'n gwneud gwyddoniaeth drwy gyfrwng yr
iaith fedru symud ymlaen i'r byd mawr tu allan. Eu dadl oedd y dylid hefyd
*ynganu* y termau yn ol ynganiad Cymraeg y sillaf Saesneg! Felly byddwn
ni'n ysgrifennu - a dweud - leucocyt, chlorid, ayb
Dadl pobl iaith oedd bod y sillafiadau hyn yn hollol annaturiol i'r Gymraeg
(e.e. dim "ch" cyn unrhyw beth ond "w" ar wahan i'r treiglad) ac na fyddai
neb yn dilyn yr ynganiad beth bynnag.
Beth ddaeth o hyn i gyd - yng NgyrA, o leiaf - oedd rhyw fath ar gyfaddawd.
Dyna baham mae "microffon" yno, yn ogystal a+ "meicroffon", er enghraifft.
Ni all Bruce ond awgrymu, os ydych chi'n dymuno delio a+ rhyw gemegyn neu
gilydd, y dylech edrych ar enghreifftiau o gemegion tebyg yn NgyrA i
ddarganfod yr egwyddor a ddefnyddiwyd.
'Dw i'n meddwl bod gan Bruce ryw egwyddorion hefyd ynghylch trawslythrennu
geiriau o dras Lladin a Groeg yn gyffredinol, ond yn anffodus *does* gennym
mo'r amser i fynd ar o+l hynny ar hyn o bryd.
Ann
----- Original Message -----
From: Dafydd Lewis <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, July 11, 2003 12:48 AM
Subject: Re: Geirfa wyddonol
> Gwerthfawr dros ben!
> Mae'n ddiddorol cymharu'r termau. Sylwais fod acetylcholine = asetylcolin
> (fel GPC) tra bod Termau Bioleg (GwasgPC 1967) yn cynnig = acetylcholin.
> Mi wn prun sydd orau gen i. (Hefyd polysaccharide = polysacarid (Berwyn &
> GPC)/polysaccharid (TB).
> A oes ganllawiau yn rhywle ar gyfer enwau cyffredin biocemegol?
> dafydd
>
>
|